Beth ydi Cymunedau’n
Gyntaf?
Rhaglen gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yw ‘Cymunedau’n
Gyntaf’ sy’n anelu at leihau tlodi a helpu gwella bywydau
pobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Mae’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn wahanol i raglenni
ariannu eraill y gorffennol mewn sawl ffordd:-
Mae’n ofynnol i rai cymunedau ymgymryd a rhywfaint o waith paratoi
cyn y gellid sefydlu Partneriaeth a chreu Cynllun Gweithredu Cymunedol.
Y Gwaith Paratoi hwn fydd yn sicrhau fod pobl leol yn medru chwarae
rhan ystyrlon yn y rhaglen a chyfrannu’n effeithiol ac yn hyderus
i’r broses o adfywio eu cymuned. Bydd y Gwaith Paratoi hefyd
yn sicrhau fod y Bartneriaeth a sefydlir yn gynrychioladol o’r
gymuned y’i gwasanaethir ac yn adlewyrchu anghenion y gymuned
leol. Bydd y Gwaith Paratoi yn amrywio o un gymuned i’r llall
yn ddibynnol ar hyder pobl leol, lefel sgiliau datblygu cymunedol,
ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rhaglen, ymrwymiad y gymuned
a hefyd profiadau blaenorol y gymuned o dan raglenni adfywio eraill.
Golyga hyn gall proses y rhaglen gymryd un o ddau lwybr :-

Gwaith Paratoi
Dyma rhan pwysicaf y rhaglen gan mai drwy’r broses hon y bydd
seiliau cadarn i weddill y rhaglen yn cael eu ffurfio. Bwriad y cyfnod
hwn yw sicrhau fod cymunedau yn derbyn pob cefnogaeth, cyngor, hyfforddiant,
sgiliau, gwybodaeth fel y gallent gyfrannu’n hyderus i’r
broses.
Dyma rhai o’r gweithgareddau y gellid disgwyl eu gweld yn ystod
y cyfnod hwn:-
Adnabod Anghenion y Gymuned
Awdit Cymunedol
Hyfforddiant Datblygu Sgiliau
Cyflogi Cydlynydd Cymunedau’n Gyntaf
Datblygu gallu cyrff statudol/mudiadau gwirfoddol i gynorthwyo’r
gymuned leol i ddatblygu’r rhaglen.
Cynllun Datblygu Potensial
Bydd y cynllun yn nodi dymuniadau’r gymuned i geisio datblygu
gall/potensial unigolion o’r gymuned; aelodau o’r Bartneriaeth;
asiantaethau a chyrff eraill i gyfrannu’n wirioneddol i’r
broses. Gellid gwneud hyn drwy hyfforddiant ffurfiol, hyfforddiant
anffurfiol a drwy weithgareddau cymunedol.
Mae Cynllun Datblygu Potensial yn angenrheidiol i gymunedau sydd
heb elwa o weithgareddau datblygu cymunedol blaenorol. Fodd bynnag
mae
rhai o’r cymunedau wedi bod yn rhan o gynlluniau datblygu cymunedol
blaenorol ac felly nid yw’n angenrheidiol iddynt gyflwyno Cynllun
Datblygu Potensial cynhwysfawr, ond yn hytrach ei gynnwys fel rhan
o’r Cynllun Gweithredu.
Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf
Mae’n ofynnol i bob cymuned sefydlu Partneriaeth Cymunedau’n
Gyntaf. Bydd y Partneriaethau yn cael eu sefydlu ar sail y tri
thraean h.y:-
1/3 cynrychiolaeth o’r gymuned leol
1/3 cynrychiolaeth o’r sector statudol
1/3 cynrychiolaeth o’r sector preifat a gwirfoddol.
Bydd bob partneriaeth a’i haelodau yn creu ac yn mabwysiadu Cytundeb
Partneriaeth. Nodir yn y Cytundeb Partneriaeth union gyfrifoldeb bob
aelod, nod ac amcanion y bartneriaeth; trefniadau gweithio’r
bartneriaeth, trefn atebolrwydd y bartneriaeth a threfniadau rheoli
arian y bartneriaeth.
Ymhen amser gall Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf sefydlu
eu hunain yn endidau cyfreithiol addas.
Bydd sefydlu Partneriaeth Cymunedau’n Gyntaf yn cymryd amser,
ac fe adolygir ei esblygiad yn fanwl gan y Cynulliad.
Cynllun Gweithredu Cymunedol.
Bydd y Bartneriaeth yn creu y Cynllun hwn er mwyn nodi beth mae’r
gymuned ei eisiau a sut y cyflawnir hynny. Nodir gweledigaeth tymor
hir a byr y gymuned. Bydd pob Cynllun Gweithredu Cymunedol yn cael
ei datblygu a’i gweithredu yn unol a thema Fframwaith Gweledigaeth
y Gymuned, sef:-