CYFARFOD
CYHOEDDUS CYMUNEDAU'N GYNTAF
NEUADD SARN MELLTEYRN
7:3 0 y.h. Nos Fercher - 1Oed o Ebrill, 2002.
Presennol:-
Nesta Roberts, Wenna Roberts, Gwenan Roberts, Geraint Williams, Cadi Thomas,
Gwyneth Jones, Janice Jones, Robin Williams, Elaine Davies, Mari Jones, Harry
Richards, Lowri Richards, Eileen Roberts, Eiflon Jones, Seimon Jones, Helen
Pierce, M J Griffith, Anna Georgina Chitty, Glyn Roberts, Iddon Edwards,
Griff Owens, Shirley Ellis, E Griffith, Jennie Roberts, Nia Wyn, W.Gareth
Roberts.
Arwel Jones (Cwlwm GwIedig), Sharon Warnes (Cyngor Gwynedd), Catrin Thomas
(Cyngor Gwynedd), Meinir Jones (Mantell Gwynedd)
I.Croeso a Chyfiwyniad gan y Cynghorydd W Gareth Roberts.
Cafwyd cyflwyniad byr gan y Cyng. i gynllun Cymunedau'n Gyntaf. Nododd mai
bwriad y cynllun yw ceisio mynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol,
economaidd, amgylcheddol a chymunedol ar lefel leol. Mae'r cynllun yn gyfle
i bobl leol weithio gydag asiantaethau eraill i ddatrys ac i ddiwallu anghenion
lleol. Rhan o'r cynllun yw'r arian penodol sydd wedi ei glustnodi ar gyfer
y cymunedau yma ac mae'n debygol fod hyd at £800,000 ar gael i bob
cymuned dros gyfnod o dair blynedd. Fodd bynnag er mwyn denu'n arian a chreu
gwelliannau yn yr ardal mae'n ofynnol i bawb weithio mewn partneriaeth i
sicrhau fod yr hyn a gaiff ei gynllunio ar gyfer y dyfodol yn elwa i bawb.
Y sefyllfa hyd yn hyn.
Amlinellodd y Cyng. fod olwynion y broses eisoes wedi dechrau troi yn sgil
cynnal cyfarfodydd agored blaenorol, ac yna daeth g rwp o gynrychiolwyr y
cynghorau cymuned at ei gilydd i lunio cais cychwynnol i gyflogi Cydgysylltyd
ar gyfer y cynllun. Mae'r cais hwnnw bellach gyda'r Cynulliad Cenedlaethol
yn disgwyl ystyriaeth (gweler Atodiad 1).
Nododd y Cyng. mai bwriad y noson oedd mynd ati i sefydlu Grwp Llywio fyddai'n
sail i'r
Bartneriaeth maes o law, ac yn cymryd cyfrifoldeb i baratoi'r ffordd ar gyfer
canlyniad y cais cychwynnol.
2. Sefydlu'r Bartneriaeth (Grwp Llywio)
Materion Lleol - Cafwyd trafodaeth agored ar rai o'r materion oedd yn achosi
pryder yn lleol. Cyfeiriwyd at y testun a ganlyn :- trafnidaeth gymunedol;
hyfforddiant galwedigaethol; cyflogaeth sicr; anghenion tai a chartrefi;
allfudo pobl ifanc; dirwyiad siopau/ neuaddau/ capeli; datblygu diwydiannau
lleol e.e. amaeth, twristiaeth pysgota; twf technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
Mapio Lleol - Rhannwyd y mynychwyr i dri grwp a buont yn mapio'r holl fudiadau,
asiantaethau a grwpiau sy'n gweithredu'n lleol (gweler Atodiad 2).
Blaenoriaethu - Rhannwyd yr holl gyrff i sectorau a cheisiwyd eu blaenoriaethu.
Cytunwyd bod angen cynrychi pob blaenoriaeth ar y Grwp Llywio er mwyn
sicrhau bod pob carfan o'r
gymuned yn cael Ilais (gweler Atodiad 3). Nodwyd hefyd y gwagleoedd presennol
ac y byddai'r Grwp Llywio yn gweithio i sicrhau cynrychiolaeth ohonynt dros
y misoedd nesaf.
Y Grwp Llywio - Cynigwyd enwau i gynrychioli'r gwahanol sectorau a derbyniodd
pawb.
Bydd y canlynol yn cynrychioli'r gymuned ar y Grwp Llywio
Cyfarfod
Grwp Llywio Cymunedau'n Gyntaf.
Neuadd Sarn Mellteyrn.
7:30 y.h Nos Fercher - 24ain o Ebrill 2002.
Presennol:-
W.Gareth Williams, Nesta Roberts, Geraint Williams, Elaine Davies, Wenna
Roberts, Shirley Ellis, Gwenan Roberts, Seimon Jones, Glyn Roberts, Michael
John Griffith, Meinir Jones (Mantell Gwynedd), Catrin Thomas (Cyngor Gwynedd).
1. Croeso
Croesawyd pawb ir cyfarfod gan y Cyng. Williams. Tynnodd sylw aelodau y grwp
llywio at botensial a phwysigrwydd y cynllun hwn i ddyfodol yr ardal.
2. Grwp Llywio.
Soniodd Catrin fod aelodau y Grwp Llywio i dderbyn Ffeil Cymunedaun Gyntaf
yr un er eu gwybodaeth eu hunain fel arweiniad iw gwaith dros y misoedd nesaf.
Fodd bynnag mae'n rhaid disgwyl iddynt gyrraedd o'r Cynulliad.
Gweithredu - Catrin i ddod A'r ffeiliau erbyn y cyfarfod nesaf.
3. Cais Cychwynnol
Er nad oes cadarnhad naill ffordd na'r llall wedi ei dderbyn or Cynulliad
ynghylch y cais penderfynwyd cychwyn ar drefniadau fyddai'n hwyluso gweithredu'r
cais cychwynnol ar ei gymeradwyo. Cafwyd trafodaethau ar y pynciau isod:
Penodi Cydlynydd Lleol - Aethpwyd i'r afael â rhai or systemau y dylid
eu gosod yn eu lle cyn y gellid cyflogi Cydlynydd lleol. Trafodwyd yr angen
am gorff i weinyddu'r cyflog a chorff cefnogol i'r cydlynydd, i ymddwyn fel
rheolwr llinell. Yn sgil trafodaethau penderfynwyd y dylid manteisio ar wasanaeth
cyflogi Mantell Gwynedd am gost o £120 y flwyddyn i weinyddu'r cyflog.
Gweithredu - Catrin i anfon copîau o Swydd-ddisgrifiadau tebyg i'r
grwp llywio cyn y cyfarfod nesaf.
b. Hysbysebu Swydd - Cafwyd trafodaeth ynghylch y dulliau gorau. i recriwtio
ymgeiswyr addas gydar profiad perthnasol yn y maes gwaith dan sylw. Dynodwyd
mai Daily Post, C&D, Golwg, Llanw LIyn fyddai'r papurau newyddion gorau
iw targedau a chynigodd Seimon y gallai roi'r hysbyseb ar y we o dan Penllyn.com.
Gweithredu - Catrin i gasglu hysbysebion tebyg erbyn y cyfarfod nesaf.
c. Swyddfa Cymunedau'n Gyntaf - Nodwyd y byddai angen lleoliad swyddfa os
fydd penodi Cydlynydd yn cymryd lle. Awgrymwyd Ysgol Bryn Croes, Siop Sarn,
Siop y Garej fel lleoliadau tebygol. Cytunwyd ei fod yn bwysig defnyddio
adnoddau sydd eisoes yn yr ardal; yn ogystal A sicrhau fod y swyddfa yn yr
ardal ei hun.
Gweithredu - Glyn i ymweld A'r lleoliadau i astudio eu haddasrwydd ynghyd â chasglu
prisiau.
4. Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf.
Cafwyd cefndir i'r gronfa hon gan Meinir a dosbarthwyd rhai ffurflenni yn
y cyfarfod. Nododd y grwp llywio y byddai'n ddefnyddiol cael copîau.
o'r ffurflenni er mwyn codi ymwybyddiaeth ohoni yn lleol.
Gweithredu - Catrin i anfon copi dwyieithog i bawb or grwp llywio.
5. Aelodaeth y Grwp Llywio.
Nodwyd fod un categori o aelodaeth y grwp llywio heb gynrychiolaeth - twristiaeth.
Awgrymwyd y dylid cysylltu gyda Carol i geisio diwallu'r bwlch.
Gweithredu - Meinir i drafod gyda Carol.
Cyfarfod Nesaf - Nos Fercher, Mai 15ed, 7:30 y.h yng Nghanolfan Tudeiliog.

top
Cyfarfod
Grwp Llywio Cymunedau'n Gyntaf
Canolfan Gymunedol Tudweiliog.
7:30 yh Nos Fercher - 15 o Fai 2002.
Presennol:-
Gareth Roberts, Nesta Roberts, Wenna Roberts, Glyn Roberts, Gwenan Roberts,
Catrin Thomas (Cyngor Gwynedd).
Ymddiheuriadau: Elaine Davies, Shirley Ellis, Geraint Williams, Meinir Jones
(Mantell Gwynedd).
1. Croeso.
Croesawyd pawb i'r cyfarfod a dosbarthwyd ffeiliau Canllawiau Rhoi Cymunedau'n
Gyntaf i bawb.
2.Adrodd yn ôl ar Swyddfa (Glyn Roberts)
Swyddfa yn y Mart - Adroddodd Glyn fod y Mart bellach wedi ailagor ac yn
annhebygol bydd lle yno.
Slop Sarn - Nododd Glyn nad oedd y Perchennog presennol yn awyddus i osod
y siop.
Garej Hardy - Nododd Glyn mai gwerthu oedd blaenoriaeth y perchennog ond
nid oedd yn gwrthod y syniad o osod y garej.
Glasfryn Hire - Roedd Glyn wedi derbyn prisiau ar gyfer cael swyddfa dros
dro ar faes parcio Neuadd Sarn.
Cytunwyd mai Garej Hardy's yw'r lleoliad mwyaf delfrydol ond bod angen trafod
ymhellach. Yn yr achos na fyddai'r garej ar gael neun anaddas trafodwyd
rhai lleoliadau tebygol eraill. Nid oedd unman penodol yn dod i feddwl
heb fod angen gwaith aruthrol arno a fyddai'n bwyta'n amser a'n harian.
Awgrymwyd y gellid chwilio ymhellach os oes angen i sefydlu swyddfa mewn
festri capel lleol, neu mewn ystafell yn y Penrhyn Arms.
Penderfynwyd :- Edrych ymhellach i Siop/Swyddfa/Garej Hardy's. Bydd yr ymweliad
nesaf i gadarnhau - addasrwydd yr adeilad; asesu os oes angen addasu'r adeilad;
trafod prisiau.
Gweithredu :- Gareth Roberts, Glyn Roberts a Nesta Roberts.
3 Trafod y Swydd.
a) Swydd-ddisrgifiad
Cytunwyd gyda'r enghraifft o swydd-ddisgrifiad o'r canllawiau.
Penderfynwyd :- Ychwanegu cymal yn ymwneud A'r angen i ddeilydd y swydd fod
ag ymwybyddiaeth o fywyd cefn gwlad Penllyn.
Penderfynwyd :- Ei bod yn angenrheidiol cael siaradwr Cymraeg yn ddeilydd
y swydd a dylid ei hysbysebu felly.
Penderfynwyd Cyd-gysylltydd fyddai teitl y swydd
Penderfynwyd Partneriaeth Penllyn fyddai'r corff atebol
Penderfynwyd Cadeirydd y Bartneriaeth fyddai'r rheolwr llinell.
Gweithredu :- Catrin i ddrafftio y swydd-ddisgrifiad ar gyfer y Cyd-gysylltydd.
b) Partneriaeth
Cafwyd Trafodaeth ynghylch sefydlu'r grwp llywio yn Bartneriaeth.
Penderfynwyd :- Dylai'r grwp llywio yn ystod y misoedd nesaf dargedu'r sector
nas y'i cynrychiolir yn bresennol i sicrhau fod y Bartneriaeth yng nghyflawn.
Byddai'r Bartneriaeth gyda'r Cyd-gysylltydd yn gweithio tuag at sefydlu yn
gorff cyfreithiol; a sicrhau hyfforddiant perthnasol i aelodau'r bartneriaeth
ar reoli mudiad; y byddai'r Bartneriaeth yn ethol swyddogion.
c) Corff Arweiniol.
Daeth yn amlycach yn y cyfarfod heno cymaint yw'r angen am gorff arweiniol,
gan gynnwys y meysydd canlynol: -
- Mynd i gytundeb cyfreithiol gyda deilydd y swydd - Sicrhau amodau. a thelerau.
swydd
- Cyfrif Banc i ddal arian y Bartneriaeth dros dro
Penderfynwyd :- Bod angen corff arweiniol i ddal yr arian yn hanfodol ac
mai'r Cyngor sydd fwyaf dymunol yn bresennol.
Gweithredu :- Catrin i drafod gyda'r adrannau perthnasol ynghylch dal yr
arian a gweinyddu'r cyflog.
4 Codi Ymwybyddiaeth
a) Cronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf - Nodwyd nad oedd y ffurflenni
cais wedi cyrraedd pawb. Nodwyd hefyd y dylid codi ymwybyddiaeth ar raddfa
ehangach na drwy'r aelodau'r grwp llywio'n unig. Gweithredu Catrin i anfon
ffurflenni at bawb nau derbyniodd. Gweithredu ErthygI am y gronfa yn Llanw
LIyn. Meinir ar gyfer y dudalen flaen a Gwenan fel arall.
b) Pamffledi Rhoi Cymunedau'n Gyntaf -Eich Cymuned - Dosbarthodd Catrin
gopiau or parmffled i bawb a chytunwyd gan nad oes person/pwynt cyswIlt yn
bresennol i beidio eu dosbarthu nes penodi'r Cyd-gysylltydd.
c) Tudalen We - Penderfynwyd dylid cael tudalen cyn gynted â phosibl
ac
ychwanegu ati fel y bydd pethau'n digwydd.
Gweithredu :- Catrin i gysylltu hefo Seimon
d) Cyfarfod Cyhoeddus - Penderfynwyd y byddai cynnal cyfarfod Cyhoeddus yn
chwarterol yn ffordd o sicrhau fod y bobl hynny sydd eisoes wedi dangos diddordeb
a enyn eraill i wybod am y cynllun. Gweithredu :- Cydgysylltyd i gymryd hyn
ymlaen.
e) Adroddiad - Penderfynwyd bod rhai pobl eisoes yn teimlo eu bod yn colli
allan
o'r datblygiadau gan nad ydynt ar y grwp llywio felly dylid cael adroddiad
byr i'w anfon i'r rheiny sydd ar y rhestr bostio. Gweithredu :- Catrin i
ysgrifennu adroddiad iw anfon cyn gynted ag y daw cadarnhad o'r arian.
5 Unrhyw
Fater Arall.
Nododd Gareth fod Coleg Meirion Dwyfor yn cynnig pecyn sy'n cynnwys cyfrifiadur
a'r meddalwedd, ynghyd A 60 awr o hyfforddiant i fusnesau am bris o £395.
Mae Gareth yn disgwyl mwy o fanylion gan y Coleg.
6 Cyfarfod
Nesaf :-
Penderfynwyd na ddylid cyfarfod nes y bydd y Cynulliad wedi cymeradwyo'r
cais. Yn y cyfamser bydd Catrin yn cadw cysylltiad gyda phawb drwy lythyr
ac unrhyw argymhellion i ddod nôl ati hi.

top
Cyfarfod
Grwp Llywio Cymunedau'n Gyntaf Pen Llyn.
Ysgol Bryncroes.
7:00 yh, Nos Fawrth - 12 o Awst, 2002.
Presennol:-
Nesta Roberts (Cadeirydd), Wenna Roberts, Glyn Roberts, Elaine Davies, Shirley
Ellis, Geraint Williams, Seimon Jones, M. Griffith, Cyng. Evan Griffith,
Elwyn Vaughan (CYMAD), Peter Lunt Williams (Cyngor Gwynedd), Catrin Thomas
(Cyngor Gwynedd).
Ymddiheuriadau : Gwenan Roberts, Meinir Jones (Mantell Gwynedd).
a) Etholwyd Nesta Roberts yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. Croesawodd Nesta
bawb i'r cyfarfod.
b) Cyflwyniad gan Elwyn Vaughan, CYMAD.
Beth yw CYMAD?
Cwmni datblygu gwledig
Cwmni'n datblygu cynlluniau arloesol
Cwmni sy'n adeiladu ar adnoddau naturiol
Cwmni gyda'i weithgareddau wedi eu selio ar egwyddorion cynaladwyedd ieithyddol,
amgylcheddol, diwylliannol a chymunedol.
Mae i CYMAD 3 brif ffrwd o weithgaredd, sef:
* Uned iaith
* Uned amaeth a thwristiaeth
* Uned Gymunedol
Dyma rhai o gynlluniau CYMAD yn ardal Pen Llyn :-
* Gweithgareddau Cymunedol o dan gynllun LEADER 2
(Menter yr Eifl, Y Fic yn Llithfaen, Nant Gwrtheyrn, Owens Roofing, Ymddiriedolaeth
Enlli, Melin Aberdaron.)
* Gweithgareddau Amaethyddol
Biff Llyn, Cig Rose Llyn, Bwydlyn, Cynnyrch Gwynedd, Cynnyrch Gwl‚n,
Llin a Cywarch.)
Mae Cymad yn gweithio ar ddatblygu 3 cynllun ym Mhen Llyn ar hyn o bryd,
sef:-
* Lliw Llyn. (Prosiect £1/2 miliwn o dan gynllun Amcan 1. Prosiect
i benodi
Swyddog, a phrosiect cynllunio safleoedd amgylcheddol arbennig. Y prosiect
i gychwyn tua canol Hydref.)
* Menter laith . (Prosiect Amcan 1 i benodi Swyddog Datblygu ac i ddatblygu
cynlluniau
ieithyddol ym Mhen Llyn. Y prosiect i gychwyn tua chanol Medi.)
* Cynllun Adfywio Llyn. (Cynllun Bwrdd yr laith Gymraeg i benodi Swyddog
Adfywio ym Mhen Llyn. Y prosiect i gychwyn nawr.)
Mae cyfleodd posibl i'r dyfodol drwy roi'r tri chynllun uchod a chynlluniau
eraill e.e. Cymunedau'n Gyntaf, mewn un lleoliad ym Mhen Llyn, megis:
Rhannu adnoddau
Rhoi ffocws i ardal
Clwstwr o gynlluniau gyda'i gilydd yn caniatâu rhannu syniadau a sbarduno
cynlluniau newydd
Cydblethu a chydweithio cynlluniau yn sicrhau cynaladwyedd
Cyfleodd swyddi i'r ardal
Datganoli swyddi o fewn Gwynedd.
c) Trafodaeth - Swyddfa.
Diolchodd Nesta i Elwyn am y cyflwyniad ac agorodd y drafodaeth ynghylch
posibiliadau defnyddio Ysgol Bryncroes fel canolfan i gynlluniau CYMAD a
i gynllun Cymunedau'n Gyntaf.
Gofynnodd Catrin i Elwyn Vaughan os oedd gan CYMAD unrhyw fan penodol o dan
sylw i sefydlu swyddfeydd. Nododd Elwyn y byddai Ysgol Bryncroes o ran adeilad
a lleoliad canolog ym Mhen Llyn yn ddelfrydol.
Cododd Elaine y pwynt i'r Grwp Llywio wrthod Ysgol Bryncroes yn y cyfarfodydd
cyntaf oherwydd ei fod allan o ffordd i bobl. Cytunodd y Grwp gyda hyn ond
nododd Nesta fod y grwp wedi bod yn chwilio am swyddfa ers misoedd yn aflwyddiannus.
0 dan yr amgylchiadau roedd y grwp yn barod i dderbyn y cynnig i edrych i
mewn i'r posibilrwydd o ddefnyddio Ysgol Bryncroes.
Cafwyd cyflwyniad byr gan Peter Lunt Willimas (Cyngor Gwynedd) ar gefndir
yr adeilad, a nododd nad oedd y Cyngor yn awyddus i weld yr adeilad yn
adfeilio ymhellach. Fodd bynnag ni fyddai'r Cyngor yn medru buddsoddi'n
ariannol yn yr adeilad. Roedd y Cyngor yn barod i ystyried rhentu, rhoi
les tymor hir neu werthu'r adeilad.
Nododd y Cyng Griffith fod Pwyllgor yr Ysgol hefyd yn awyddus i weld yr adeilad
yn cael defnydd ehangach ond y byddai rhaid sicrhau fod yr amodau a'r
telerau yn y cyfansoddiad yn gwarantu y gellid rhyddhau yr adeilad i'w
lesu neu ei werthu.
Roedd pawb yn gytûn bod yn rhaid gwarchod hawl y gymuned i ddefnyddio'r
adeilad fel man cyfarfod. Byddai hyn yn sicrhau fod y defnydd presennol yn
parhau.Gweithredu - Cytunodd y Grwp Llywio i Catrin drafod ymhellach gyda
Elwyn Vaughan a Peter Williams ar y mater.
Gweithredu - Cyng Griffith i adrodd yn ôl o gyfarfod heno i Bwyllgor
Ysgol Bryncroes ac i'r Cyngor Cymuned.
d) Penodi
Cydlynydd.
Derbyniodd pawb y swydd-ddisgrifiadau a'r manyldeb person fel rhai cywir.
Cynigodd Geraint ein bod yn ychwanegu cymal yn nodi bod y swydd yn rhan o
gynllun 10 mlynedd.
Roedd Gwenan wedi dod ar draws brawddeg wallus yn y swydd-ddisgrifiad y dylid
ei gywiro.
Gweithredu - Catrin i gywiro ac ychwanegu cymal i'r Swydd-ddisrgifiad.
dd) Unrhyw Fater Arall:
Diolchodd Catrin i Seimon am ei waith ar y dudalen wê.
Holodd Nesta pwy oedd y canolwyr ar gyfer y Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau'n
Gyntaf. Nododd Catrin mai Meinir Jones, Mantell Gwynedd a Catrin Thomas,
Cyngor Gwynedd oedd y canolwyr.
Holodd Nesta ynghylch cynnwys ' adroddiad yn y wasg. Nododd Catrin fod Gwenan
wedi cynnig cynnwys rhywbeth yn rhifyn Medi o Llanw Llyn. Bydd Catrin yn
anfon manylion ati.
e) Dyddiad y Cyfarfod Nesaf.
Nos Fawrth 17 o Fedi, 2002 yn Ysgol Botwnnog am 7:00 yh.
(Y cyfarfod i gynnwys ymweld a'r dudalen wê)

top
Cymunedau'n
Gyntaf Pen Llyn
28 o Hydref 2002,
'Lion' Tudweiliog.
Presennol :- Wenna Roberts, Nesta Roberts, Gwenan Roberts, Geraint Williams,
Elaine Davies, Shirley Ellis, Seimon Jones, Gareth Roberts, Glyn Roberts,
Catrin Thomas (Cyngor Gwynedd)
Ymddiheuriadau -
1. Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Nesta Roberts.
2.PanelPenodi
Bu i'r Panel Penodi gyfarfod yn gynharach i greu rhestr fer. Adroddwyd i'r
grwp bod pedwar ymgeisydd wedi cyrraedd y rhestr fer a bydd y cyfweliadau
yn cael eu cynnal ar Dachwedd y 7ed yn Ysgol Botwnnog.
3.Ysgol Bryncroes.
Adroddodd Catrin nad oedd y cais wedi ei lunio gan ei bod yn disgwyl ymateb
gan yr Adran Eiddo ar amcangyfrif cost adnewyddu'r adeilad. Bydd Catrin
yn cyfarfod gyda'r Adran yn ystod yr wythnos nesaf. Unwaith bydd y cais
wedi ei gwblhau fe'i hanfonir at aelodau y Grwp ac at Bwyllgor Rheoli
Bryncroes i dderbyn ymatebion. Cytunwyd i wahodd dau gynrychiolydd o
Bwyllgor Rheoli Ysgol Bryncroes i fynychu cyfarfodydd Cymunedau'n Gyntaf.
4.Cronfa
Ymddiriedolaeth Cymunedau'n Gyntaf. Cais Canolfan Adloniant Aberdaron.
Mae'r CGGC wedi anfon y cais hwn ymlaen i dderbyn cymeradwyaeth y Bartneriaeth
leol. Nododd sawl un ei bod yn annerbyniol i'r Bartneriaeth wneud penderfyniad
o'r fath heb wybod yn union sawl cais arall sydd wedi ei gymeradwyo, a sawl
cais sydd yn disgwyl dyfarniad.
Cynigwyd y dylai'r Bartneriaeth dderbyn rhestr misol o geisiadau Ilwyddiannus,
a cheisiadau sydd wedi eu cyflwyno. Cynigwyd mai dim ond Catrin ddylai fod
yn ganolwr ar geisiadau o Ben Llyn. Cynigwyd hefyd y dylai'r Bartneriaeth
lunio canllawiau iddi ei hun ar gyfer cymeradwyo ceisiadau dros £5,000
fel y gallai fod yn gwbl atebol i'r gymuned o'u penderfyniadau.
Cytunwyd cymeradwyo £5,000 i Ganolfan Adloniant Aberdaron.
Cais Clwb Rygbi PwIlheli.
Nododd Gareth fod pwyllgor y Clwb wedi sôn wrtho o'u bwriad i geisio
am arian o'r gronfa hon i brynu Ilifoleuadau ar gyfer y cae rygbi. Gan fod
y Clwb yn gwasanaethu dwy ardal Cymunedau'n Gyntaf byddai'r cais a gyflwynid
yn gobeithio denu arian o'r naill ardal (De PwIlheli a Phen Llyn). Cytunodd
pawb fod y Clwb yn gwasanaethu trigolion, plant a phobl ifanc Pen Llyn, a'i
fod yn
adnodd i'n cymunedau. Cytunodd y Bartneriaeth i gefnogi y Clwb Rygbi i gyflwyno
cais i'r gronfa.
5. Fforwm
Cymunedau'n Gyntaf Gwynedd
Cynhelir y fforwm ym Mhorthmadog ar y 6 o Dachwedd i aelodau o bartneriaeth
Cymunedau'n Gyntaf trwy Wynedd. Bydd Nesta a Wenna yn mynychu'r Fforwm ac
yn adrodd yn ôl i weddill y Bartneriaeth.
6. Unrhyw
Fater Arall.
Cafwyd cais eto gan unigolion a grwpiau i fod yn rhan o'r Bartneriaeth. Cytunodd
y bartneriaeth fod y cyfarfodydd yn agored i bawb ddod yno i wrando. Byddai'r
Bartneriaeth hefyd yn barod i estyn gwahoddiad i unigolion siarad yn y cyfarfodydd.
Nododd Catrin gan mai Partneriaeth Gychwynnol (grwp llywio) yw hi ar hyn
o bryd nid yw rheolaeth, trefniadaeth, na gweinyddiaeth y Bartneriaeth wedi
eu sefydlu. Gall aelodaeth y Bartneriaeth newid yn y dyfodol (yn ddibynnol
ar unigolion a dymuniad y gymuned).Ar hyn o bryd fodd bynnag mae holl aelodau'r
Bartneriaeth Gychwynnol wedi eu hethol o gyfarfod cyhoeddus gan weddill y
gymuned.
7. Dyddiad
y Cyfarfod Nesaf
Nos Fercher, 20 o Dachwedd 2002,
7:30 yh 'Ship', Aberdaron.