Ymgynghori


 Dogfennau Word -

 Addysg      Amgylchedd      Cymuned Weithredol      Diogelwch Cymunedol

 Iechyd a Lles      Swyddi a Busnes     Tai     Trafnidiaeth


CYFLWYNIAD

Mae wardiau Aberdaron, Botwnnog a Tudweiliog oll yn rhan o raglen Adfywio Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru – 'Cymunedau'n Gyntaf'. Adnabyddir yr ardal fel 'Cymuned o ddiddordeb gwledig – Pen Llŷn', sydd yn un o ddeg ardal o ddiddordeb trwy Gymru, na fyddai'n rhan o'r rhaglen ar ganlyniadau 'Mynegrif Amddifadedd Lluosog 2001'. Sefydlwyd Partneriaeth i arwain y rhaglen yn lleol yn 2001, a cyflogwyd Cydlynydd yn Rhagfyr 2002. Mae swyddfa'r Bartneriaeth bellach wedi ei leoli yng Nghanolfan Bryncroes, sydd yn fan hollbwysig i ddatblygiad y rhaglen yn lleol.

Mae'r rhaglen Cymunedau'n Gyntaf yn wahanol i raglenni ariannu eraill y gorffennol mewn sawl ffordd:-

  • Mae'n raglen tymor hir fydd yn rhedeg am o leiaf 10 mlynedd
  • Cymunedau sy'n penderfynu beth sydd ei angen a chânt eu cynorthwyo i gyrraedd eu nodau
  • Mae'n ceisio cynyddu lefel cyfranogaeth pobl leol
  • Mae'n denu nawdd a chefnogaeth o sawl ffynhonnell i'r rhaglen
  • Mae'n ymwneud â sicrhau gwelliannu parhaol i gymunedau difreintiedig
  • Mae'n annog gweithio drwy ddulliau mentrus a llawn dychymyg
  • Mae'n mynnu gweithio'n integredig i daclo tlodi a'i achosion

Bydd popeth a gaiff ei ariannu o dan raglen Cymunedau'n Gyntaf yn cyd‑fynd ag amcanion y rhaglen:

  • Codi hyder pobl leol
  • Cael pobl leol i gyfrannu at wneud eu cymunedau'n llefydd gwell
  • Annog addysg a hyfforddiant sgiliau ar gyfer gwaith
  • Creu swyddi a chynyddu incwm pobl leol
  •   Gwella tai a'r ardal o'u hamgylch
  • Gwella iechyd a lles drwy ddelio âr amrywiaeth o bethau sy'n effeithio ar iechyd pobl; ac annog byw bywyd iach a gweithgar
  • Gwneud cymunedau'n llefydd diogel  i fyw, gweithio a chwarae ynddynt
  • Addasu a newid sut caiff gwasanaethau y cyhoedd eu darparu'n bresennol

 

Mae'r rhaglen yn ceisio darganfod anghenion y gymuned a gweithredu arnynt i wella bywydau'r trigolion, fel rhan o'r broses yma cynhaliwyd arolwg cymunedol ar ffurf 'Gwerthusiad Cyfranogol'. Ariannwyd y Gwerthusiad trwy Rwydwaith Cefnogi Cymunedau'n Gyntaf, ymgymerwyd ar gwaith gan gwmni ymgynghorwyr Thomas, Jones & Batten (TJB) o Benrhyndeudraeth.

METHODOLEG

Mae ardal Cymunedau'n Gyntaf Pen Llŷn yn wahanol iawn i'r rhan fwyaf o ardaloedd eraill sydd yn rhan o'r rhaglen, ac i adlewyrchu hyn penderfynwyd ar ddull o ymgynghori fyddai'n apelio at y trigolion ac yn gweithio mewn ardal lle nad oes yna ganolfan naturiol ble mae pawb yn ymgynnull. Penderfynwyd ar ddull 'Gwerthuso Cyfranogol (GC)'.

Beth yw Gwerthuso Cyfranogol (GC)?
Gallwn ddisgrifio Gwerthuso Cyfranogol (neu Gwerthuso Cyfranogol Gwledig) fel:
'teulu o fethodoleg a thechnegau sydd yn galluogi pobl i ddadansoddi a rhannu eu gwybodaeth o fywyd ac amodau lleol. Trwy GC mae pobl yn byw mewn ardaloedd trefol a gwledig yn gallu adnabod eu blaenoriaethau a gwneud penderfyniadau am y dyfodol'

Mae Gwerthuso Cyfranogol yn fethodoleg sydd yn creu cylch o hel data, myfyrio a dysgu – a thrwy hyn weithredu. Yn ddelfrydol mae pob grŵp o gyfranogwyr yn symud trwy'r gwahanol gyfnodau, yn gyntaf yn edrych ar eu canfyddiadau o'u sefyllfa bresennol, yna adnabod rhwystrau a bylchau a chynnig atebion neu newidiadau.  Yn arferol mae'r sesiynau yn cael eu hymgymryd gan gyfoedion, pobl sydd yn penderfynu cyfranogi ac yn penderfynu ar eu lefel o gyfranogaeth.

Mae GC yn hynod o hyblyg. Gall gael ei ddefnyddio gyda grwpiau bychan a cymunedau cyfan. Gall gael ei ddefnyddio ble bynnag mae pobl yn ymgynnull: yn eu tai, mewn tafarndai, mewn siopau neu ar gornel stryd. Nid yw'n ddibynnol ar gael pobl at eu gilydd mewn cyfarfodydd. Mae'r fethodoleg yn hynod o weladwy, sydd yn golygu eu bod yn gallu goresgyn problemau lythrennedd, cynnig ffocws tra mae pwnc yn cael ei drafod, torri lawr cymhlethdod, yn gallu cael eu newid ac addasu ac yn sbarduno meddyliau.

PROFFIL O BEN LLŶN

POBLOGAETH AC OEDRAN
Mesurwyd poblogaeth breswyl ardal Cymunedau'n Gyntaf Pen Llŷn fel 2,784 yng Nghyfrifiad 2001. Roedd poblogaeth Gwynedd yn 116,843, felly mae poblogaeth yr ardal yn cyfrif am 2.4% o boblogaeth y Sir

Mae'r tabl isod yn dangos canran o'r  boblogaeth ym mhob ystod oedran
 

Pen Llŷn

Gwynedd

Cymru a Lloegr

O dan 16

19.3

19.4

20.2

16 i 19

4.2

5.1

4.9

20 i 29

9.0

12.2

12.6

30 i 59

41.4

38.7

41.5

60 i 74

18.4

15.7

13.3

75 a throsodd

7.7

9.0

7.6

Cyfartaledd oedran

41.9

40.4

38.6

Ffynhonnell: Cyfrifiad 2001, ONS

 



top
 
| Cartref | Beth ydi C.G.? | GweithreduYmgynghori | FforwmNewyddion | Y BartneriaethCymorthDolennauCysylltu |
 

© penllyn.com 2005