Chwilio-Search News">Chwilio-Search
Cyfrannu -Submit Archif - Archive

Cyflawni addewidion o ran yr iaith Gymraeg - Delivering on Welsh language promises -- Postiwyd gan-Posted by waen ar / on Friday, February 25 2005
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi llwyddo i gyflawni ei addewid i fuddsoddi yn yr iaith Gymraeg, meddai'r Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg, Alun Pugh, heddiw. Mae Iaith Pawb, cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru ddwyieithog, wedi nodi'r ymrwymiad i fuddsoddi £28m yn ychwanegol yr yr iaith Gymraeg erbyn 2006. Mae cyllideb o £12.68m i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer 2005-06 yn golygu y byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw.

Dywedodd y Gweinidog: "Diolch i fuddsoddiad sylweddol Llywodraeth y Cynulliad yn yr iaith Gymraeg, mae gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg erbyn hyn swyddfeydd rhanbarthol yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin, sy'n gweithredu fel canolfannau i'r gwaith a wneir gan y Bwrdd i gefnogi'r iaith yn yr ardaloedd hyn.

"Bydd y buddsoddiad diweddaraf hwn yn galluogi'r Bwrdd i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud ar waith pwysig fel prosiect Twf, sy'n annog rhieni dwyieithog i siarad Cymraeg â'u plant.

"Pan oeddwn ar gwrs Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn yr wythnos ddiwetha, fe gwrddais â nifer o gydweithwyr o Fwrdd yr Iaith a'r Mentrau Iaith sy'n ymwneud â'r gwaith o gyflwyno prosiect Twf, felly rwy'n falch y bydd arian y Cynulliad yn eu galluogi i barhau â'u gwaith, gan ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg."

O dan ei gylch gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod, bydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn parhau i adeiladu ar y gwaith a wna i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector preifat ac yn y gweithle.

Er mwyn sicrhau statws y Gymraeg fel iaith gyfoes, bydd y Bwrdd yn gweithredu strategaeth Technoleg Gwybodaeth ar gyfer yr iaith Gymraeg, gan gynnwys defnyddio TG i safoni termau, cyfieithu â chymorth peiriannau, technoleg llais a'r defnydd o'r Gymraeg mewn cysylltiad â ffonau symudol.

Bydd y Bwrdd yn parhau i weithio gyda'r 25 o Fentrau Iaith ac yn eu cefnogi i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn cymunedau.

-----------------------------------------------------------
The Welsh Assembly Government has fully delivered on its promise to invest in the Welsh language, said Welsh Language Minister Alun Pugh today. Iaith Pawb, the Assembly Government’s action plan for a bilingual Wales, set out the commitment to invest an additional £28m in the Welsh language by 2006. The budget of £12.68m for the Welsh Language Board (WLB) for 2005-06 means that we will fulfil that commitment.

The Minister said: "Thanks to the Assembly Government's major investment in the Welsh language, the Welsh Language Board now has regional offices in Caernarfon and Carmarthen, acting as focal points for the Board’s work to support the language in these areas.

"This latest investment will enable the Board to continue progress on important work such as the Twf project, which encourages bilingual parents to speak Welsh to their children.

"While on a Welsh course at Nant Gwrtheyrn last week, I met a number of WLB and Mentrau Iaith colleagues involved in rolling out the Twf project, so I am very pleased that Assembly funding will enable them to continue their work, developing the next generation of Welsh speakers."

Under its remit for the coming year, the WLB will continue to build on its work in increasing the use of Welsh in the private sector and in the workplace.

To ensure the status of Welsh as a contemporary language, the WLB will implement an Information Technology strategy for the Welsh language, including work on using IT to standardise terms, machine-aided translation, voice technology and use of Welsh in relation to mobile phones.

The Board will also continue to work with the 25 Mentrau Iaith and support them in promoting the use of Welsh within communities.

source- communitiesfirst network