Ymestyn Hawliau

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Ymestyn Hawliau

Cynorthwyo Pobl Ifanc o 11 i 25 oed yng Nghymru

Gweithio gyda`n gilydd i roi hawliau i bobl ifanc

`Ymestyn Hawliau` yw polisi arloesol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau cymorth i ieuenctid yng Nghymru. Mae`n cwmpasu`r holl wasanaethau, cefnogaeth a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25, pa le bynnag y maent yn digwydd, pwy bynnag sy`n eu darparu, ac o ba le bynnag y daw`r cyllid. Mae ystod eang o sefydliadau lleol yn gyfrifol am helpu pobl ifanc i ddatblygu, a bydd gan bob un o`r sefydliadau ran i`w chwarae yn y gwahanol gamau o`u datblygiad. Mae`r polisi "Creu`r Cysylltiadau" yn canolbwyntio ar ddod â gwasanaethau at ei gilydd er mwyn ceisio eu darparu`n fwy effeithiol.

Llwytho: Papur Trafodaeth: Ymestyn Hawliau: cynorthwyo pobl ifanc o 11 i 25 oed yng Nghymru: Gweithio gyda`n gilydd i roi hawliau i bobl ifanc [.pdf 243.6KB]

Llwytho: Ymestyn Hawliau: Cynorthwyo Pobl Ifanc 11-25 oed yng Nghymru. Gweithio gyda’n gilydd i roi hawliau i bobl ifanc. Ymatebion yr ymgynghoriad [.pdf 192KB]

Y Gwasanaeth Ieuenctid

Mae Gwaith Ieuenctid yn cwmpasu ystod eang o weithgareddau, yn ymwneud ag addysg yn ei hystyr ehangaf. Mae gwaith ieuenctid yn ymwneud ag addysg a datblygiad, cymdeithasol a phersonol, pobl ifanc rhwng un ar ddeg a 25 oed, yn enwedig rhai 13 i 19 oed.

Y Bartneriaeth Pobl Ifanc

Y Bartneriaeth Pobl Ifanc yw’r mecanwaith ar gyfer cyflwyno gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’r term yn cyfeirio at y bartneriaeth a arweinir gan yr awdurdod lleol, sy’n cynllunio, yn cydlynu ac yn goruchwylio pob gwasanaeth cymorth ieuenctid mewn ardal yn unol â fframwaith statudol Deddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Mae Ymestyn Hawliau a chyfarwyddiadau ac arweiniad cysylltiedig yn gosod y fframwaith ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid yng Nghymru a chyfrifoldebau’r awdurdodau lleol.    

Lincs Perthnasol

Yn ystod ein trafodaethau y llynedd, ymrwymodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu Grwp Cynghori a nifer o is-grwpiau i gefnogi ei gwaith yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac, yn ehangach, yn y Bartneriaeth Pobl Ifanc.
Mae cynnig i bum ymarferydd yng Nghymru gael y cyfle i wneud cyflwyniad yn y gynhadledd ar Bobl Ifanc, Risg, Gwytnwch a Gwrthsafiad ym Mhrifysgol Strathclyde ar 7-10 Medi 2006.
Diben y rheoliadau hyn yw sicrhau bod cylch Gwaith Estyn yn ymestyn I hyfforddi gweithwyr Ieuenctid a chymunedol a ddarperir gan sefydliadau Addysg Uwch neu ar eu rhan.
2006-04-12