


| Chwilio-Search | Cyfrannu -Submit | Archif - Archive |
agor y Ganolfan -- Postiwyd gan-Posted by eirian ar / on Friday, November 26 2004
Cafwyd prynhawn difyr iawn ym Mryncroes ddydd Sadwrn. Death nifer helaeth yno I agor y Ganolfan ar ei newydd wedd. Cafwyd anerchiadau gan Rhys Evans a Enid Parri Evans. Dadorchuddiwyd y plac yn y cyntedd gan Kit Parry a cyflwynwyd blodau iddi gan Lois Parri ei wyres. Cafodd pawb baned a chacen a sgwrs ddifyr am weddill y prynhawn.
Er mwyn cadw yn y cof hanes y frwydr I gadw’r ysgol yn agored yn 1970, y mae arddangosfa o hen luniau a thoriadau papur newydd ar y waliau. Mae dyfodol y ganolfan yn edrych yn llewyrchus iawn, gyda swyddfa Cymunedau’n Gyntaf yno; hefyd ysgol Feithrin wedi ail-ddechrau a nifer o ddigwyddiadau eraill.

